Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (208)v4 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
|
2 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
|
Cwestiynau Brys
Cwestiwn Brys 1 Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y newyddion bod ‘Statws Dibynadwy Iawn fel Noddwr’ Prifysgol Glyndŵr wedi cael ei dynnu yn ôl? EAQ(4)0451(ESK)
Cwestiwn Brys 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y gostyngiad blwyddyn ar flwyddyn o 8.4% ym mherfformiad Gwasanaeth Ambiwlans Cymru o ran ymateb i alwadau categori A? EAQ(4)0459(HSS) |
3 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5534 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r digwyddiadau diweddar i goffáu D-Day, Diwrnod Lluoedd Arfog y DU a chanmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf;
2. Yn gwerthfawrogi cyfraniadau milwyr o Gymru, yn ddynion a menywod, ac yn cydnabod yr anawsterau y gallant eu hwynebu ar ôl dychwelyd i fywyd sifil;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cynllun Cerdyn Cyn-filwyr i Gymru i alluogi:
a) ehangu'r cynllun prisiau consesiynol presennol i gynnwys cyn-filwyr
b) mynediad am ddim i byllau nofio awdurdodau lleol i gyn-filwyr
c) mynediad am ddim i safleoedd Cadw i gyn-filwyr
d) blaenoriaeth o ran triniaeth ar gyfer cyflyrau/anafiadau sy'n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol ar y GIG
e) blaenoriaeth o ran darparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl i gyn-filwyr y mae angen addasiadau i'r cartref arnynt.
4. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r potensial i godi cofeb Gymreig yn yr Ardd Goed Genedlaethol yn Swydd Stafford, i gofio ac anrhydeddu'r holl ddynion a menywod dewr o Gymru a ymladdodd ac a gollodd eu bywydau yn gwasanaethu'r genedl.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith bod toriadau i fudd-daliadau ar gyfer pobl anabl, gan gynnwys y dreth ystafell wely, yn effeithio ar gyn-aelodau’r Lluoedd Arfog a’r rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu’r cyhoeddiad yn Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU am gynigion ar gyfer Bil Cwynion am Wasanaethau, er mwyn gwella’r system gwynion yn y Lluoedd Arfog drwy sefydlu Ombwdsmon ar gyfer milwyr.
Gwelliant 3 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Ym mhwynt 3, dileu ‘sefydlu’ a rhoi ‘ystyried’ yn ei le.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn darparu cefnogaeth ddigonol ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog sydd ag Anhwylder Straen wedi Trawma.
|
4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5535 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod aelwydydd a busnesau yng Nghymru yn cael llawer o bost heb gyfeiriad nad yw byth yn cael ei agor ac sydd naill ai'n mynd yn syth i'w dirlenwi neu'n cael ei ailgylchu;
2. Yn credu bod hwn yn straen ychwanegol ar:
a) busnesau, sy'n gorfod talu am waredu gwastraff; a
b) awdurdodau lleol, sydd â chyfrifoldeb am gasglu’r gwastraff.
3. Yn pryderu am yr effaith amgylcheddol sy'n niweidiol i'n hadnoddau naturiol, gyda phob tunnell o bost heb gyfeiriad arno yn defnyddio 17 o goed a 7000 galwyn o ddŵr i'w gynhyrchu;
4. Yn nodi ymhellach Ymgyrch Age Cymru ‘Sgamiau a Thwyll’.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyhoeddusrwydd i gynlluniau eithrio fel y Gwasanaeth Dewis Derbyn Post.
Mae Ymgyrch ‘Sgamiau a Thwyll’ Age Cymru ar gael yn:
http://www.ageuk.org.uk/cymru/get-involved/make-a-donation3/scams-and-swindles/ [Saesneg yn unig]
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1
TYNNWYD YN OL
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio ag awdurdodau lleol a’r sector preifat i fabwysiadu biliau a chyfathrebu di-bapur lle bynnag y bo'n bosibl.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r broses ar gyfer ‘Ardaloedd Dim Galw Diwahoddiad’, i amddiffyn pobl hŷn rhag masnachwyr twyllodrus diegwyddor a sgamiau ar garreg y drws.
|
5 Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM5536 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn dymuno'n dda i dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.
2. Yn nodi pwysigrwydd chwaraeon a gweithgarwch corfforol i iechyd a lles.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod gan bawb fynediad i chwaraeon a gweithgarwch corfforol;
b) adolygu effeithiolrwydd addysg gorfforol o ran annog cyfranogi gydol oes mewn chwaraeon a mynd i’r afael â chyfraddau cyfranogi isel ymhlith rhai grwpiau economaidd-gymdeithasol; ac
c) gwella'r cysylltiadau rhwng cyrff llywodraethu cenedlaethol, awdurdodau lleol, ysgolion a chlybiau chwaraeon i sicrhau bod arferion hyfforddiant gorau yn cael eu mabwysiadu i gynyddu'r tebygolrwydd y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn gallu cystadlu ar y lefel uchaf.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu ei bod yn bwysig bod ffyrdd egnïol o fyw ar gael i bawb.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Yn is-bwynt 3b, dileu ‘cyfranogi gydol oes mewn chwaraeon’ a rhoi ‘ymarfer corff gydol oes’ yn ei le.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
sicrhau bod yr amgylchedd adeiledig wedi’i ddylunio i annog ffyrdd egnïol o fyw.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu effaith gadarnhaol digwyddiadau chwaraeon ar lefelau cyfranogaeth mewn chwaraeon, megis Pencampwriaethau Athletau Ewrop y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol sydd ar fin cael eu cynnal yn Abertawe.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod cymryd rhan mewn chwaraeon a hyfforddi chwaraeon yn gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn y gymuned. |
Cyfnod Pleidleisio |
6 Dadl Fer (30 munud) NDM5532 Andrew RT Davies (Canol De Cymru)
UEFA 2020 – Caerdydd, y ddinas berffaith i gynnal y bencampwriaeth
Mae cais Caerdydd i gynnal gemau allweddol ym Mhencampwriaethau Ewrop UEFA yn 2020 yn gyfle i atgyfnerthu lle Cymru ar lwyfan chwaraeon y byd. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 1 Gorffennaf 2014